Pwyllgorau’r Rhaglen
Pwyllgor Monitro Rhaglen Iwerddon Cymru - Cronfeydd Strwythurol Ewrop - 2014-2020
Mae Pwyllgor Monitro’r Rhaglen yn monitro’r gwaith o ddarparu buddsoddiadau’r UE ar gyfer Rhaglen Cydweithredu Iwerddon Cymru.
Mae Pwyllgor Monitro’r Rhaglen yn gwneud y canlynol:
- darparu crynodeb strategol ar gyfer y rhaglen,
- edrych yn fanwl ar y materion sy’n effeithio ar y rhaglen,
- adolygu’r gwaith o weithredu’r rhaglen a’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud tuag at gyflawni ei hamcanion.
Cadeirir Pwyllgor Monitro’r Rhaglen ar y cyd gan Uwch Swyddog o Lywodraeth Cymru neu’r Cynulliad Rhanbarthol Deheuol, gan ddibynnu ar y wlad ble caiff ei gynnal. Mae’r pwyllgor yn cynnwys 26 aelod sy’n cynrychioli’r grwpiau rhanddeiliaid allweddol yn Iwerddon a Chymru.
Pwyllgor Llywio’r Rhaglen
Mae Pwyllgor Llywio’r Rhaglen yn gyfrifol am adolygu a chymeradwyo pob cais am gyllid ar gyfer rhaglen Iwerddon Cymru.
Cadeirir Pwyllgor Llywio’r Rhaglen ar y cyd gan Uwch Swyddog o Lywodraeth Cymru neu’r Cynulliad Rhanbarthol Deheuol, gan ddibynnu ar y wlad ble caiff ei gynnal. Mae’r pwyllgor yn cynnwys 18 aelod sy’n cynrychioli’r grwpiau rhanddeiliaid allweddol yn Iwerddon a Chymru.
Mae porthol wedi cael ei sefydlu ar gyfer ei ddefnyddio gan aelodau Pwyllgor Llywio’r Rhaglen ar gyfer y canlynol:
- uwchlwytho papurau pwyllgor
- uwchlwytho dogfennau ceisiadau achos busnes ar gyfer eu hystyried
- darparu llwybr archwilio clir ar gyfer penderfyniadau cyllido drwy gyfrwng y blog trafod.